|
1.2 When the ‘National Museum of Wales’ Museum was established by Royal Charter in 1907, its foundation purpose was defined as the advancement of education of the public, primarily by the complete illustration of the geology, mineralogy, zoology, botany, ethnography, archaeology, art, history and special industries of Wales.
|
|
1.2 Pan sefydlwyd ‘Amgueddfa Genedlaethol Cymru’ gan Siarter Brenhinol ym 1907, y diben sylfaenol oedd hyrwyddo addysg y cyhoedd, yn bennaf drwy ddarlunio’n llawn ddaeareg, mwynyddiaeth, sŵoleg, botaneg, ethnograffeg, archeoleg, celfyddydau, hanes a diwydiannau arbennig Cymru. Mae ein Siarter diwygiedig (2006) yn diffinio’r diben hwnnw fel ‘hyrwyddo addysg y cyhoedd... yn bennaf drwy ddarlunio’n gyflawn wyddoniaeth, celfyddydau, diwydiannau, hanes a diwylliant Cymru, neu sy’n berthnasol i, Gymru, ac yn gyffredinol, drwy gasglu, cofnodi, diogelu, egluro a chyflwyno gwrthrychau a phethau a gwybodaeth gysylltiedig, boed yn gysylltiedig â Chymru ai peidio, y bwriedir iddynt hyrwyddo gwella dealltwriaeth a hybu ymchwil’. Felly mae diben hanfodol a goblygiadau ymchwil y Siarter yr un fath i bob pwrpas.
|