|
|
Mae'r dyddiadur yn mynd ymlaen i ddisgrifio taith nesaf Lewis Humphreys, 'Jorney (sic) to Montana', sy'n parhau i'r ail ddyddiadur. Ym mis Mawrth 1866 talodd $140 am le mewn caban ar fwrdd agerfad a oedd yn mynd i Fort Benton. Mae arddull y dyddiadur hwn yn fwy llenyddol a cheir disgrifiadau byw o'r golygfeydd, yn cynnwys y golygfeydd pictiwrésg wedi'u naddu yn llechweddau'r mynydd a welai wrth i'r bad ymlwybro ar hyd afon Missouri. Mae'n sôn am weld dynion yn cloddio am lo; cwrdd â badau eraill ar yr un afon; y bad yn mynd yn sownd ar farrau tywod; colli teithiwr o fwrdd y bad; gweld mynwent yr Indiaid a grwpiau niferus o Indiaid wrth fynd heibio iddynt, gyda sylw ar ddiogi'r Bucks, gweithgarwch y "Squaws" a'r plant "yn chwarae yn y baw a'r llaid fel crwbanod". Mae ei dirmyg at annhegwch y capten a'r clerc tuag at y teithwyr a'u hymddygiad gwael yn amlwg. Rhydd sylwadau ar y pentrefi y galwant ynddynt ar y ffordd; cyflwr y tir a'r borfa mewn mannau a'r mynyddoedd llwm, a cheir sylwadau ar hanes y caerau ar hyd y daith. Daw'r dyddiadur hwn i ben ar 29 Mehefin, ond gorffennodd y daith ar 1 Gorffennaf pan gyrhaeddodd 'Mrs Helena', fel yr enwyd yr agerfad yn gariadus gan y teithwyr, Fort Benton. Ni aeth Lewis Humphreys mor bell â Montana ond yn hytrach teithiodd yn y goets fawr i Helena a Virginia City, lle bu'n cloddio am aur. Ym mis Medi 1869 teithiodd i Lawrence, Kansas, ac anfonodd ei aur i Fathdy'r Unol Daleithiau, gan ennill $6000 amdano.
|