|
Mae'r prosiect uchelgeisiol wedi cwmpasu cerddoriaeth, ffasiwn a symud i gyfleu amser a digwyddiadau o amser y rhyfel drwy'r degawdau. Bydd The Siren Sisters, triawd cytgord arddull y 40au, yn llywio'r gynulleidfa drwy eu taith gyda chaneuon fel Keep the Home Fire Burning Novello i ganeuon poblogaidd gan David Bowie a Frankie Goes to Hollywood ar hyd y ffordd, hyd yn oed yn cynnwys fersiwn acapella o gerddoriaeth thema Dr Who, gan gydnabod rôl flaenllaw'r theatr wrth ffilmio pennod 'Daleks in Manhattan' cyfres lwyddiannus iawn Dr. Who BBC Cymru. Caiff posibiliadau a dyheadau ar gyfer y dyfodol hefyd eu hymchwilio drwy gerddoriaeth a pherfformiad ar gyfer adeilad y bu ganddo rôl mor arbennig yng Nghymru bob amser.
|